Tudalen Hafen
Meini profion y feiriadaeth
Gwobrau'r Gymdogaeth
Dosbarthiadau Canlyniadau Ffurflenni Cais Ysgol Cysylltwch a ni

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Mae Sefydliad Cymru yn ei Blodau wedi ymrwymo i feithrin Balchder Dinesig, Cyfrifoldeb Amgylcheddol ac i annog gwell ansawdd bywyd drwy Gynnwys y Gymuned.

lysau Cenedlaethol

Dosbarth 1 Tlws y Dinasoedd (Pob. 70,000+ )
Dosbarth 2 Tlws y Trefi Mawrion (Pob. 25,001 - 70,000)
Dosbarth 3 Tlws y Trefi (Pob. 10,001 - 25,000)
Dosbarth 4 Tlws y Trefi Bychain (Pob. 5,001 - 10,000)
Dosbarth 5 Tlws y Bychain Cefn Gwlad (Pob. 2,001 - 5,000
Dosbarth 6 Tlws y Pentrefi Mawrion (Pob. 1,001 - 2,000)
Dosbarth 7 Tlws y Pentrefi (Pob. 300 - 1,000)
Dosbarth 8 Tlws y Pentrefi Bychain (hyd at 300 o bobl)

Tlysau eraill

Dosbarth 9_ Gwesty, Bwyty Neu Dafarn
Dosbarth 10 Maes Campio, Maes Carafannau Neu Faes Dai Gwyliau
Gwobrau Effeithlonrwydd Dwr
Cystadleuaethau I Ysgolion (cliciwch yma)
Gwobrau Gymdogaeth (cliciwch yma)

Pob cais i gyraedd y cydlynydd erbyn y - 8fed o Fai 2009

Mae niferoedd poblogaeth yr wyth dosbarth i'w codi o'r rhestrau etholwyr swyddogol, ac mae'n rhaid eu cynnwys ar y ffurflen gais.

Mae gofyn paratoi rhaglen ar bapur ar gyfer y beirniad o'r llefydd y mae i'w gweld a'u beirniadu pan fydd yn ymweld â chi.

Mae o'n bwysig sicrhau cydweithreddiad a chymorth eich Awdurdod Lleol / Adran Priffyrdd wrth i chi baratoi. Mae angen llunio Digwyddiadur syml yn dangos yr hyn a wnaethoch. Mae cynllun y Digwyddiadur a gofynion y gystadleuaeth i'w cael ar wefan Cymru yn ei Blodau cliciwch yma.

Mae angen cyflwyno'r Dgwyddiadur i'r beirniad ar y diwrnod y bydd yn ymweld a chi i feirniadu. Bydd y beirniad yn cymryd un copi ohono efo fo-dau gopi yn Nosbarth 1.

 

Dosbarthiadau 1-8 Canllawiau
Arddangosfeydd blodau o ansawdd uchel, gwaith cynnal a chadw arferol yn cynnwys torri glaswellt, tystiolaeth o arddangosfeydd gwanwyn a lliwiau’r hydref.

Bydd tirlunio parhaol yn cynnwys perthi, Agenda Lleol 21 a datblygiadu cynaliadwy cysylltiedig, synidau blaengar sy’n cael effaith ar wahanol rannau o’r gymuned, ac ymdrech gan y gymuned, i gyd yn denu marciau ychwanegol.

Bydd ffactorau megis ansawdd yr amgylchedd, baw cwn, graffiti, posteri answyddogol, chwyn a’u tebyg yn cael eu hystyried hefyd.