Tudalen Hafen
Meini profion y feiriadaeth
Gwobrau'r Gymdogaeth
Dosbarthiadau Canlyniadau Ffurflenni Cais Ysgol Cysylltwch a ni

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Dyddiad Cau: Mehefin 6fed 2008

Nid yw categori Gwobrau’r Gymdogaeth yn un cystadleuol. Cafodd ei lunio i hybu cymunedau yng Nghymru sydd heb gymryd rhan yn flaenorol yn Ymgyrch Cymru yn ei Blodau.

I gychwyn, y cyfan sydd angen ei wneud yw ffurfio pwyllgor yn eich Cymdogaeth. Does dim rhaid iddo fod yn bwyllgor ffurfiol, dim ond ychydig o ffrindiau neu gymdogion sy’n rhannu’r un dyheadau! Nodwch ardal fyddai’n elwa, yn eich barn chi, o wneud gwelliannau iddi er mwyn sicrhau bod yr ardal yr ydych chi’n byw ynddi’n lanach ac yn wyrddach.

Bydd beirniaid Cymru yn ei Blodau’n dod i edrych ar eich cais yn ystod mis Awst, a byddant yn rhoi cyngor i chi ynghylch eich cais ac yn gwneud
awgrymiadau ar sut i’w ddatblygu.

Byddwch yn derbyn adroddiad ysgrifenedig a thystysgrif fydd yn nodi’r hyn a gyflawnwyd.

Y Gwobrau ar gael yw Gwelliant, Teilyngdod neu Ragorol yn dibynnu ar gyfanswm y pwyntiau a ddyfernir i chi.

Cyflwynir y tystysgrifau yn ein Seremoni Wobrwyo ar 19 Medi yn Venue Cymru, Llandudno.

Mae Cymru yn ei Blodau’n gweithio’n agos
gyda’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol
ar Gynllun Gwobrau’r Gymdogaeth.

FFURFLEN GAIS GWOBRAU’R GYMDOGAETH
Enw’r Cyswllt:
E-bost
Rhif Ffôn
Cyfeiriad Llawn
Sir
Côd Post
Enw’r Gais