Mae'n bleser gen i gael gwahodd eich ysgol i gymryd rhan yng nghystadlaethau garddio ac arlunio Cymru yn ei Bloadau 2009.
Mae Sefydliad Cymru yn ei Blodau 'n awyddus iawn i weld y cystadlaethau'n dod yn rhan o raglen gwricwlaidd yr ysgol.
Mae'n rhaid i'r holl waith yn y ddwy gystadleuaeth fod yn waith y plant, a hynny'n cynnwys y gwaith cynllunio sy'n digwydd dan arolygaeth yr athro.
Mae'n rhiad i'r athro oedd yn arolygu'r prosiect arwyddo pob un yngais.
Bydd angen cynnwys amlen briodol, wedi ei chyfeirio a'i stampio, gyda Phortffolio'r Gystadleuaeth Garddion pan fyddwch yn ei yrru i'r gystadleuaeth os ydych am i'r beirniaid ddychwelyd y Portffolio i'r ysgol. Dyma ddyddiadau cau'r gystadleuaeth :
Y GYSTADLEUAETH GARDDION - Mai 8fed 2009
Y GYSTADLEUAETH ARLUNIO - Mai 8fed 2009
NODYN PWYSIG
Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau'r ddwy gystadleuaeth yn ystod mis Gorffennaf a chyn diwedd tymor ysgol yr haf.
Y ceisiadau yn y ddwy gystadleuaeth i'w gyrru at Gydlynydd y gystadleuaeth, Y Fns S Lewis, 4 Gregory Crescent, Bae Colwyn LL29 7NF. |